Mae
wedi bod yn oes ers i ni gynnal gig fan hyn yn Nhy Tawe
serch hyn cafwyd llawer o ddigwyddiadau dros yr Haf
Sesiwn Fawr
Yn ddi-dor ers 1992 mae Dolgellau wedi llwyfannu'r Sesiwn
Fawr flynyddol. Yn dilyn dechrau digon bychan mae’r
wyl wedi tyfu i fod yn un o brif wyliau cerddoriaeth
byd Ewrop. Eleni roedd rhestr o fandiau gwych sef Daniel
Lloyd a Mr Pinc, Genod Droog, The Poppies, Gwilym Morus,
Mim Twm Llai, Frizbee, Euros Childs i gyd wedi chwarae.
Eisteddfod
Bu mwy na digon o gigs i ddewis wythnos Eisteddfod Abertawe.
Perfformiodd bandiau ym Maes B, yn gigs Cymdeithas yr
Iaith yn Bar 5 a'r Glamorgan Arms ac ar ein llwyfan
ni fel Mentrau Iaith Cymru. Cafwyd perfformiadau gan
fandiau fel Tangwystl, Sibrydion, Bob Delyn a'r Ebillion,
Mattoidz a llawer iawn mwy.
Gwyl y Macs
Gwyl newydd i’r Sîn roc Gymraeg a gynhaliwyd
yng Nghaerfyrddin ar yr 2il o Fedi oedd Gwyl y Macs.
Chwaraeodd bandiau fel Y Poppies, Radio Luxembourg,
Swci Boscawen, Euros Childs, Kentucky AFC, Texas Radio
Band i enwi ychydig. Roedd yr wyl yn llwyddiant ac rydym
yn gobeithio fe aiff o nerth i nerth.
Lawnsiad
DYC2
CD newydd sbon yn cynnwys 10 cân wedi'u dewis
gan y DJ Huw Stephens o Radio 1 a Radio Cymru yw CD
Dan y Cownter 2. Cafodd y CD, sy’n cynnwys hip
hop, gwerin, roc a phop, ag enwau cyfarwydd megis Radio
Luxembourg a’r Sibrydion, ei lansio yn ystod wythnos
yr Eisteddfod yn Abertawe. Os nad oes gennych gopi erbyn
hyn cywilydd arnoch chi ond peidiwch â phoeni
oherwydd mae dal digon o gopïau ar gael am ddim!
Cysylltwch â post@danycownter.com